Computer Graphics & Visual Computing (CGVC) 2018

13th - 14th September 2018

Swansea University, United Kingdom

Call for contributions

Mae cynhadledd flynyddol Eurographics y DU yn gyfle i bawb sy'n gweithio ym maes graffeg gyfrifiadurol a chyfrifiadura gweledol ddod ynghyd (gan gynnwys graffeg a golwg cyfrifiadurol, delweddu gwybodaeth a delweddu gwyddonol a dadansoddeg weledol). Mae'n denu ymchwilwyr o bob rhan o'r wlad a'r tu hwnt.

Bydd Cynhadledd Graffeg Gyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol 2018 yn gyfarfod dros nos (amser cinio i amser cinio). Nod y gynhadledd yw canolbwyntio ar gynyddu'r deialog rhwng grwpiau ymchwil academaidd ac ymchwilwyr mewn datblygiadau academaidd a diwydiannol. Er mwyn hwyluso deialog o'r fath, rydym yn gwahodd cyfraniadau ar ffurf papurau llawn, papurau byr, papurau safbwynt a chrynodebau estynedig (papurau poster).

Papurau llawn - papur o 4 i 8 tudalen, yn disgrifio ymchwil a gwblhawyd, ynghyd â thudalen ychwanegol o gyfeiriadau. Caiff papurau eu harfarnu gan aelodau pwyllgor rhaglen rhyngwladol. Disgwylir i awduron papurau a dderbynnir roi cyflwyniad 20 munud yn y gynhadledd. Bydd papurau a dderbynnir ar gael yn llyfrgell ddigidol Eurographics a byddant yn gyfwerth â chyhoeddiadau papur llawn.

Papurau byr - Diben papurau byr yw cyflwyno canlyniadau sydd newydd ddod i'r amlwg, gwaith ar y gweill ac estyniadau neu werthusiadau dilynol o ddulliau presennol. Caiff papurau byr eu hadolygu gan gymheiriaid mewn proses ddwbl-ddall un cam, gan bwyllgor rhaglen rhyngwladol. Cânt eu harchifo'n electronig a byddant yn gyhoeddiadau dyfynadwy cyflawn. Ni ddylai cyflwyniadau i'r llwybr papur byr fod yn fwy na 4 tudalen, a chaniateir tudalen ychwanegol ar gyfer cyfeiriadau. Caiff papurau byr a dderbynnir eu cyflwyno ar lafar yn y gynhadledd mewn cyflwyniadau tua 15 munud o hyd.

Papurau Safbwynt (newydd yng Nghynhadledd 2018) - mae'r llwybr papurau safbwynt yn rhoi cyfle newydd i ymchwilwyr gyhoeddi eu syniadau. Mae erthyglau safbwynt yn cynnig barn dechnegol fanwl ar dueddiadau ym maes cyfrifiadura gweledol, neu adroddiadau ar sut mae cyfrifiadura gweledol wedi cyfrannu at ddealltwriaeth o ddata neu ffenomena, heb yr angen i gyflwyno gwaith ymchwil cyflawn a/neu ganlyniadau sydd wedi'u dilysu. Rydym yn annog trafodaethau am heriau neu gyfyngiadau dulliau heddiw a meysydd pwnc ymchwil newydd posib. Rydym hefyd yn ymddiddori mewn trafodaethau am gymwysiadau sy'n canolbwyntio ar, er enghraifft, feysydd y gwyddorau ffisegol, bywyd neu gymdeithasol, peirianneg neu fasnach, neu feysydd sy'n ymwneud â phroses cyfrifiadura gweledol yn gyffredinol. Rydym yn annog pwyslais ar wersi a ddysgwyd o brofiad ymarferol yn y trafodaethau am gymhwyso, yn enwedig lle defnyddiwyd cyfrifiadura gweledol mewn amgylchedd gwaith go iawn. Cyflwynir papurau safbwynt ynghyd ag enwau a chysylltiadau'r awdur (4 tudalen ar y mwyaf). Caiff papurau safbwynt a dderbynnir eu harchifo'n electronig; maent yn gyhoeddiadau dyfynadwy cyflawn a chânt eu cyflwyno ar lafar yn y gynhadledd mewn cyflwyniadau tua 15 munud o hyd.

Bydd cyflwyniadau i'r llwybrau papur llawn, byr a safbwynt nad ydynt yn cael eu derbyn i'w cyhoeddi, ond y tybir gan y pwyllgor eu bod yn addas ar gyfer cyflwyniad poster, yn cael cyfle i gyflwyno yn y llwybr poster.

Crynodebau Estynedig (Papurau Poster) - mae cynhadledd 2018 yn ailgyflwyno llwybr poster. Diben y llwybr hwn yw cyflwyno canlyniadau sydd newydd ddod i'r amlwg, gwaith ar y gweill, ac estyniadau neu werthusiadau dilynol o ddulliau presennol. Yn benodol, mae'n darparu cyfleodd gwerthfawr i ymchwilwyr ifanc, yn enwedig myfyrwyr ôl-raddedig, dderbyn adborth gan ymchwilwyr eraill a chymryd rhan mewn trafodaethau ysgogol. Rheolir y llwybr poster gan y tîm cyd-gadeirio a'r Pwyllgor Rhaglen Rhyngwladol ar gyfer y llwybr papurau. Rydym yn gwahodd cyflwyniadau ar ffurf poster a braslun eglurhaol (h.y. crynodeb estynedig heb fod yn fwy na 2 dudalen, a chaniateir tudalen ychwanegol ar gyfer cyfeiriadau yn unig). Caiff posteri eu hadolygu gan gymheiriaid mewn proses ddwbl-ddall un cam. Caiff posteri a dderbynnir eu cyflwyno yn y sesiwn gweld posteri yn y gynhadledd.

Ni fydd crynodebau estynedig (papurau poster) a dderbynnir ar gael yn llyfrgell ddigidol Eurographics, ac ni chânt eu hystyried fel cyhoeddiad papur. Yn hytrach, byddant yn debyg i fraslun SIGGRAPH un dudalen neu boster cynhadledd heb bapur llawn cysylltiedig. Felly, ni fydd cyflwyno crynodeb estynedig neu boster yn y gynhadledd yn effeithio ar eich gallu i gyhoeddi fersiwn fwy cyflawn o'r un gwaith mewn lleoliad arall.

Dyma rai o'r pynciau ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr::

  • Graffeg Gyfrifiadurol
  • Delweddu
  • Golwg Cyfrifiadurol
  • Rhith-wirionedd
  • Dadansoddeg Weledol
  • Gwyddor Data Gweledol
  • Animeiddio Cyfrifiadurol
  • Celfyddydau ac Adloniant Cyfrifiadurol
  • Prosesu Delweddau
  • Technegau Caffael ac Ailadeiladu
  • Pensaernïaethau Graffeg a Chaledwedd Gyflymu
  • Delweddu Meddygol
  • Delweddu Amlgyfrwng
  • Gemau Cyfrifiadurol
  • Technegau Rendro
  • Delweddu Gwyddonol a Data Mawr
  • Delweddu Gwybodaeth a Dadansoddeg Weledol
  • Delweddu Geo-ofodol
  • Realiti Estynedig ac Amgylcheddau Cydweithredol
  • Apiau Symudol a Dyfeisiau Rhyngweithiol
  • Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron, Roboteg a Hapteg
  • Dulliau Modelu